Delivering Wellbeing with Doughnut Economics – upcoming event

Interested in creating economies that are regenerative and distributive in design? Join us at this Doughnut Economics event for Wales!

14th September 2021, 11am-1pm via Zoom

REGISTER VIA EVENTBRITE

  • What is “doughnut economics” and how does it relate to Wales’ Wellbeing of Future Generations Act?
  • How might local authorities and communities in Wales use “the doughnut” to guide decision making at a local level?
  • What would you love to see happen, to create more regenerative and distributive local economies?

We are fortunate to have three inspirational women leaders speaking at this all-Wales event, exploring how doughnut economics tools can help Welsh communities visualise and collaborate to deliver a wellbeing economy that works for people and planet.


		Delivering Wellbeing with Doughnut Economics - Wales image

Speakers: Kate RaworthKatherine Trebeck and Sophie Howe.

Please join us to better understand how we can align our work, foster shared learning and increase collaboration and interconnections.

All are welcome – come and join the conversation!

We’re inviting civil servants, local leaders, decision-makers and changemakers, as well as all those with an interest in addressing poverty, inequality and the climate & nature emergencies at a local level. We would love to hear what you are already doing within your organisations, councils and communities, as well as sharing ideas and co-creating projects to deliver a wellbeing economy here in Wales.

More information

In 2015, the Welsh Parliament passed a world leading piece of legislation – The Wellbeing of Future Generations (Wales) Act which places a duty on public bodies in Wales to work towards delivery of 7 wellbeing goals by taking action in accordance with the sustainable development principle. The Future Generation’s Commissioner for Wales acts as a guardian for the interests of future generations in Wales and supports public bodies to work towards achieving the goals.

To coincide with the Commissioner’s first Future Generations report in 2020, Oxfam Cymru worked collaboratively with the Anti Poverty Coalition Cymru and Wales Environment Link to produce a Welsh Doughnut 2020 report; providing a snapshot of Wales’ performance on environmental sustainability and social justice. Natural Resources Wales also used the doughnut model to illustrate the relationship between the sustainable management of natural resources and the wellbeing goals in their 2020 State of Natural Resources Report for Wales.

The principles of wellbeing economics are also gaining traction in Wales with Welsh Government joining the Wellbeing Economy Governments partnership and the Wellbeing Economy Alliance Cymru gaining momentum. Indeed, Welsh Government’s Economic Resilience and Reconstruction Mission offers a vision of a wellbeing economy.

Please join us to better understand how we can align our work, foster shared learning and increase collaboration and interconnections. Don’t miss it!

REGISTER VIA EVENTBRITE


		Delivering Wellbeing with Doughnut Economics - Wales image

Dyddiad ac amser: 11am tan 1pm dydd Mawrth 14 Medi 2021 Siaradwyr: Kate Raworth, Katherine Trebeck, Sophie Howe

Diddordeb mewn creu economïau sy’n adfywiol ac yn ddosbarthol o ran eu cynllun? Dewch i gael eich ysbrydoli yn y digwyddiad hwn a fydd yn dangos y modd y mae offer economeg toesen yn gallu helpu cymunedau Cymru i ddelweddu a chydweithredu i ddarparu economi llesiant sy’n gweithio i bobl a’r blaned, gan gyflawni ein goblygiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydym yn ffodus iawn i sicrhau tri arweinydd benywaidd ysbrydoledig i siarad yn y digwyddiad hwn; Kate Raworth, Katherine Trebeck a Sophie Howe. Ymunwch â ni i ddeall yn well y modd y gallwn gysoni ein gwaith, meithrin dysgu ar y cyd, a chynyddu cydweithrediad a rhyng-gysylltiadau. Peidiwch â cholli ma’s!

  • Beth yw “economeg toesen” a sut y mae’n berthnasol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru?
  • Ym mha ffordd y gallai awdurdodau lleol a chymunedau yng Nghymru ddefnyddio’r “doesen” i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar lefel leol?
  • Beth y byddech chi wrth eich bodd yn ei weld yn digwydd i greu economïau lleol mwy adfywiol a dosbarthol?

Mae croeso i bawb – dewch i ymuno â’r sgwrs! Rydym yn gwahodd gweision sifil, arweinwyr lleol, penderfynwyr a newidwyr, yn ogystal â phawb sydd â diddordeb mewn mynd i’r afael â thlodi, anghydraddoldeb a newid yn yr hinsawdd ar lefel leol. Byddem wrth ein bodd yn clywed yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud o fewn eich sefydliadau, eich cynghorau a’ch cymunedau, yn ogystal â rhannu syniadau a chyd-greu prosiectau i gyflawni economi llesiant yma yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth

Yn 2015, pasiodd Llywodraeth Cymru ddarn o ddeddfwriaeth sy’n arwain y byd – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i weithio tuag at gyflawni saith nod llesiant trwy gymryd camau gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn warcheidwad ar gyfer buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, ac yn cefnogi cyrff cyhoeddus i weithio tuag at gyflawni’r nodau.

I gyd-fynd ag adroddiad cyntaf y Comisiynydd ar Genedlaethau’r Dyfodol yn 2020, bu Oxfam Cymru yn cydweithio â Chynghrair Gwrthdlodi Cymru a Cyswllt Amgylchedd Cymru i lunio adroddiad Toesen Cymru 2020; roedd hwn yn darparu cipolwg ar berfformiad Cymru o ran cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol. Defnyddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd y model toesen yn ei Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru 2020 i egluro’r berthynas rhwng rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a’r nodau llesiant.

Mae egwyddorion economeg llesiant hefyd yn cryfhau eu gafael yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn ymuno â phartneriaeth Llywodraethau’r Economi Llesiant, a Cynghrair Economi Llesiant Cymru yn ennill momentwm. Yn wir, mae cenhadaeth Llywodraeth Cymru, sef Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, yn cynnig gweledigaeth o economi llesiant.

Rydym yn ffodus iawn i sicrhau tri arweinydd benywaidd ysbrydoledig i siarad yn y digwyddiad hwn; Kate Raworth, Katherine Trebeck a Sophie Howe. Ymunwch â ni i ddeall yn well y modd y gallwn gysoni ein gwaith, meithrin dysgu ar y cyd, a chynyddu cydweithrediad a rhyng-gysylltiadau. Peidiwch â cholli ma’s!